Ffyrdd o Faethu

ffoaduriaid ifanc

ffoaduriaid ifanc

Mae ffoaduriaid ifanc yn cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain neu wedi'u gwahanu oddi wrth eu teulu yn ystod y daith - yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd. Mae mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn. 

Rydym angen teuluoedd yn Sir y Fflint a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd. 

Gyda'n cefnogaeth a'n harweiniad, gallwch chi helpu i arwain ffoadur ifanc tuag at ddyfodol cadarnhaol, gan roi'r cyfle iddynt ddysgu ac adennill eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd. 

I gael gwybod sut y gallwch gefnogi ffoadur ifanc, cysylltwch â ni www.maethucymru.siryfflint.gov.uk/cy/contact-us i ofyn am becyn gwybodaeth.

become a foster carer

cysylltu â ni

  • Drwy gyflwyno eich gwybodaeth chi, rydych chi'n deall y gallai Cyngor Sir y Fflint gysylltu â chi ynglŷn â’ch ymholiad maethu. Hysbysiad Preifatrwyd.