Sut Mae'n Gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Mae maethu yn Sir y Fflint yn fwy cysylltiedig na rydych chi’n ei sylweddoli. Bydd ein rhwydwaith amrywiol ac ymroddedig yn cynnig arbenigedd, cymorth proffesiynol ac arweiniad i chi bob awr o’r dydd. 

Rydyn ni wastad yma i’ch helpu chi pryd bynnag rydych chi ein hangen ni.

example-img-04

gwell gyda’n gilydd

Mae Maethu Cymru Sir y Fflint yn ymwneud â’r gymuned. Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth bob dydd, boed hynny ar gyfer y plant sydd yn ein gofal, eu teuluoedd maeth, neu’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda ni bob dydd. 

Yn genedlaethol, rydyn ni’n gallu cynnig cymaint o gefnogaeth oherwydd ein bod ni’n gyfundrefn o 22 o sefydliadau nid-er-elw ar draws Cymru. Gallwn rannu gwybodaeth ar draws awdurdodau lleol i sicrhau bod ein gofalwyr y bobl orau y gallan nhw fod.

example-img-05

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Dydy Maethu Cymru ddim yn asiantaeth faethu gyffredin. Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer 22 tîm maethu Awdurdodau Lleol Cymru, ac rydyn ni’n rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth leol sydd eu hangen arnoch ochr yn ochr ag arbenigedd tîm cenedlaethol mwy.

Mae’r pwyslais lleol hwn yn golygu ein bod ni wedi ymrwymo i Sir y Fflint. Rydyn ni eisiau i blant yn Sir y Fflint aros yn eu cymunedau lleol a chadw eu cefndiroedd diwylliannol. Mae pob plentyn, wedi’r cyfan, yn haeddu’r cyfle i berthyn. 

Byddwn bob amser yn rhoi pobl o flaen gwneud elw. Gan nad ydyn ni’n gwneud elw, mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn ymwneud â’r hyn sydd orau i’r plant yn ein gofal.

Rhagor o wybodaeth am Maethu Cymru Sir y Fflint:

become a foster carer

get in touch

  • By submitting your information you understand that Flintshire County Council may contact you about your fostering enquiry. Privacy Policy