Mae ysgolion cynradd ar hyd a lled Sir y Fflint wedi croesawu’r Arth Faethu i’w hystafelloedd dosbarth, ymgyrch newydd sydd wedi ei lansio gan Maethu Cymru Sir y Fflint i hyrwyddo maethu.
Nod ymgyrch yr Arth Faethu yw codi ymwybyddiaeth o faethu yn yr awdurdod lleol ac amlinellu’r angen brys i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint.
Mae’r Arth Faethu yn rhan o’r tîm maethu ac mae’n ymuno ag ysgolion cynradd ar hyd a lled Sir y Fflint i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol gyda phlant yn y dosbarth. Fe fydd plant yn cael y cyfle i fynd â’r Arth Faethu adref am benwythnos ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe fyddant yn gofalu am yr arth. Fe fyddant hefyd yn derbyn Llyfryn yr Arth Faethu sy’n cynnwys gweithgareddau llawn hwyl i’w gwneud yn y dosbarth ac i gofnodi eu hanturiaethau dros y penwythnos.
Fe fydd teuluoedd plant hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgyrch hon drwy rannu lluniau a straeon ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â sut mae’r Arth Faethu wedi addasu i fywyd gyda’i theulu newydd, gan ddefnyddio’r hashnod #arthfaethu.
Dewch o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol
A hoffech chi weld anturiaethau’r Arth Faethu?
Teipiwch #arthfaethu yn eich peiriannau chwilio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn hynod o falch o’r ymgyrch hon a fydd hefyd yn amlygu’r angen i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn ein cymunedau lleol. Drwy roi’r cyfrifoldeb i blant i garu a gofalu am yr Arth Faeth am benwythnos, fe fyddant yn cael synnwyr o’r hyn sydd angen i blant yn ein teuluoedd maeth ei wneud.
I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych yn ysgol sy’n dymuno gweithio gyda Maethu Cymru Sir y Fflint gyda’r ymgyrch hon cysylltwch â Melissa Cross ar 01352 701965, e-bost: Melissa.cross@flintshire.gov.uk