blog

mae'r gofalwyr maeth, zahra ac annie yn rhannu eu siwrnai maethu ar gyfer wythnos mabwysiadu a maethu lhdtc+

Cofnodwyd: Dydd Llun 4th March 2024
Blog i Mewn: Blogs

Yn ystod wythnos Maethu a Mabwysiadu LHDTC+, dyma ni’n cyfweld â’r gofalwyr maeth Zahra ac Annie i rannu eu profiadau fel aelodau o’r gymuned LHDTC+ a gofalwyr maeth yn Sir y Fflint. 

 

beth oedd yn eich ysgogi i ddod yn ofalwr maeth a sut oedd bod yn aelodau o’r gymuned lhdtc+ wedi dylanwadu ar eich penderfyniad?

 

Mae gennym ferch 6 oed sy’n berson bach cariadus llawn haelioni a gyda’r galon fwyaf. Un diwrnod fe ddywedodd ‘Mamis mae gennym ni lawer o gariad yn ein teulu ni, felly ydi o’n bosib i ni helpu plentyn sydd methu byw gyda’u teulu nhw?’ Ar y pwynt hynny gwyddwn ein bod yn barod i agor ein drysau a’n calonnau i gynnig cariad, sicrwydd a lle diogel i berson ifanc yn ein teulu.

Fel teulu, ac yn y gymuned ehangach, mae ein teulu ni’n cael ei garu a’i gefnogi am fod yn ni, a dim ond ni, ac rydym yn ceisio dysgu cariad a dealltwriaeth.

 

pa fath o gefnogaeth ydych chi’n ei gael gan maethu cymru sir y fflint a’r gymuned maethu ehangach?

 

Rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth trwy gydol y broses, o’r cyfnod gwneud cais i fod yn ofalwyr maeth i’r amser dyma ni’n cael ein cymeradwyo.  Cyflwynodd Maethu Cymru Sir y Fflint ni i’r Rhwydwaith Mockingbird, lle cafwyd y cyfle i ddysgu am y gefnogaeth amrywiol y maen nhw’n ei gynnig. Mae’n wasanaeth gwych, ac ni allwn aros i fod yn rhan ohono.

 

sut ydych yn gwneud yn siŵr fod y plant yn eich gofal yn teimlo’n gyfforddus ac yn cael eu cefnogi mewn amgylchedd deulu amrywiol?

 

Rydym yn trin eraill fel yr ydym ni eisiau cael ein trin. Rydym yn agored ac yn onest am bwy ydym ni a phwy yr ydym yn ei garu ac yn derbyn pobl beth bynnag eu gwahaniaethau.

 

ym mha ffyrdd yr ydych wedi gweld y system gofal maeth yn esblygu i fod yn fwy cynhwysol a chefnogol o deuluoedd lhdtc+ dros y blynyddoedd? 

 

Er mai newydd gael ein cymeradwyo ydym ni fel gofalwyr maeth rydym yn teimlo nad ydym wedi cael ein trin yn wahanol mewn unrhyw ffordd. Beth bynnag ein gwahaniaethau fel pobl, y sgiliau sydd gennym sy’n ein gwneud yn addas ar gyfer y rôl.


pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unigolion neu gyplau lgbtq+ eraill sy’n ystyried dod yn ofalwyr maeth gyda maeth cymru sir y fflint?

 

Pwy bynnag ydych chi, pa bynnag oed, rhyw, ethnigrwydd neu bwy bynnag yr ydych yn ei garu, os oes gennych y gallu i gynnig sicrwydd a sefydlogrwydd, i fod yn amyneddgar a gyda dealltwriaeth, yna heb os dylech wneud cais a newid bywydau’r rheiny sydd ei angen fwyaf.


allech chi wneud gwahaniaeth a maethu yn eich awdurdod lleol fel zahra ac annie?

 

Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.

 

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.