blog

mae caroline yn rhannu ei phrofiad o fod yn weithiwr cyngor sir y fflint ac yn ofalwr maeth

Cofnodwyd: Wednesday 17th April 2024
Blog i Mewn: Blogs

sut mae cyngor sir y fflint, fel cyflogwr sy’n cefnogi maethu, wedi cefnogi eich profiad fel gofalwr maeth? pa fath o adnoddau neu gymorth rydych chi wedi ei gael gan gyngor sir y fflint?

 

Ar ddechrau’r daith faethu, fe fu Cyngor Sir y Fflint yn garedig iawn yn caniatáu i mi leihau fy oriau i gynefino â fy rôl faethu. Roedd gweithio yn ystod tymor yr ysgol yn rhoi mwy o hyblygrwydd i mi ac argaeledd yn ystod gwyliau’r ysgol i ofalu am y plant. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig cynllun hyfforddi da, gyda sesiynau hyfforddi yn cyd-fynd ag oriau’r ysgol pan fo hynny’n bosibl.

Mae’n bwysig fod gofalwyr maeth yn cael hyfforddiant priodol a dwi’n ddiolchgar am gefnogaeth Cyngor Sir y Fflint yn caniatáu i mi gymryd amser o’r gwaith i fynychu’r sesiynau hyfforddi hyn. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i mi i ddod yn ofalwr maeth da.

fel gofalwr maeth, pa fanteision a gewch chi o fod yn gweithio i gyngor sir y fflint?


Rwy’n cael 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb fel absenoldeb gofalwr maeth, sy’n fy ngalluogi i fynychu hyfforddiant hanfodol, cyfarfodydd ac apwyntiadau sy’n gysylltiedig ag unrhyw leoliadau gofal maeth. Hefyd mae gen i’r dewis o weithio oriau hyblyg a chymryd amser i ffwrdd i fynychu’r cyfarfodydd a’r apwyntiadau hyn. Ar hyn o bryd rwy’n helpu unigolyn ifanc i symud i lety lled-annibynnol ac rwyf wedi gallu cymryd amser i ffwrdd i’w helpu i symud. Mae Sir y Fflint wedi bod yn garedig iawn sy’n amhrisiadwy.


sut ydych chi’n cael cydbwysedd rhwng eich cyfrifoldebau fel gofalwr maeth â’ch gwaith i gyngor sir y fflint, a pha strategaethau sydd wedi bod yn effeithiol yn eich barn chi ar gyfer rheoli eich amser a’ch egni? 


Rwy’n cael cydbwysedd o ran fy nghyfrifoldebau drwy fod yn drefnus a chyfathrebu cyn gynted â phosibl yn ymwneud ag unrhyw apwyntiadau neu hyfforddiant y bydd yn rhaid i mi o bosibl eu mynychu.

 

yn eich barn chi, beth yw rhai o’r rhinweddau neu’r sgiliau pwysicaf y dylai rhywun eu cael er mwyn bod yn llwyddiannus fel gofalwr maeth a gweithio i gyngor sir y fflint?


Mae bod yn drefnus, cyfathrebu’n dda a chael dealltwriaeth o’r ddwy rôl yn bwysig er mwyn bod yn llwyddiannus fel gofalwr maeth a gweithio i Gyngor Sir y Fflint.  Hefyd dwi’n credu fod ceisio trefnu apwyntiadau y tu allan i oriau busnes arferol, pan fo hynny’n briodol, yn hanfodol.

 

pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwr maeth a gweithio i gyngor sir y fflint, a sut y gallant baratoi eu hunain ar gyfer y rôl hon sy’n rhoi boddhad ond sydd hefyd yn heriol?


Fe fyddwn i’n dweud ewch amdani! Ymdriniwch â’r cyfle hwn gyda meddwl agored ac agwedd gadarnhaol. Peidiwch ag amau eich gallu i gydbwyso gyrfa yng Nghyngor Sir y Fflint tra’n rhoi cefnogaeth i blant sy’n derbyn gofal. Mae llawer iawn o gefnogaeth ar gael gan Gyngor Sir y Fflint, a fydd yn eich helpu i ffynnu yn y ddwy rôl.

 

a allech chi wneud gwahaniaeth a maethu gyda eich awdurdod lleol, fel caroline?

 

Os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm dynodedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth, i’ch helpu chi i benderfynu a yw maethu yn addas i chi.

 

Os ydych chi’n byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.