blog

mis Plant Gofalwyr Maeth

Cofnodwyd: Sunday 30th October 2022
Blog i Mewn: Blogs


Enw: Abbey

Oedran: 22

  • Dywedwch ychydig wrthym am eich teulu

Mae fy nheulu maeth yn cynnwys fi, fy mam a brawd a chwaer maeth; yr ieuengaf yn 9 oed a’r llall yn 20 oed. Daethem yn deulu maeth pan roeddwn yn 9 oed ac wedi bod yn maethu am tua 13 mlynedd. Mae aelodau eraill o fy nheulu megis nain a thaid hefyd yn rhan fawr o’n teulu maeth gan eu bod yn trin unrhyw blentyn maeth fel eu teulu eu hunain.

  • Sut ydych yn croesawu plentyn maeth newydd i’ch cartref am y tro cyntaf?


Pan fu i ni ddechrau maethu gyntaf, roeddwn yn ifanc iawn, felly fy agwedd at groesawu plant maeth newydd oedd rhannu fy nheganau gyda nhw a chwarae gemau a hefyd mynd â nhw o amgylch y tŷ. Nawr fy mod llawer yn hŷn ac wedi cael profiad o nifer o blant maeth, rwy’n deall nad dyma’r ffordd orau efallai gyda phob plentyn newydd gan y gallai fod yn ormod iddynt. Rwyf bob amser yn sicrhau fy mod yn gyfeillgar gyda gwên ar fy wyneb pan fyddant yn cyrraedd, yn ogystal â gwneud ymdrech i ddod i wybod beth yw eu diddordebau, megis eu hoff fwydydd a ffilmiau. Rwy’n ceisio treulio amser gyda nhw er mwyn iddynt deimlo yn fwy cyffyrddus yn y tŷ, hyd yn oed os mai dim ond gwylio ffilm gyda nhw. Rwyf hefyd yn ceisio fy ngorau i beidio â gofyn gormod o gwestiynau iddyn nhw ar y dechrau gan fy mod yn gwybod fod rhaid i chi fod yn amyneddgar weithiau a gadael iddynt setlo.

  • Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn rhan o deulu sy’n maethu?


I mi, y prif beth rwy’n ei hoffi am fod yn rhan o deulu maeth yw fy mod yn teimlo ein bod yn gwneud gwahaniaeth. Gall fod yn braf iawn wrth weld plentyn maeth newydd yn dod yn fwy hyderus ac yn teimlo’n llawer mwy cyffyrddus o’ch amgylch. Rwyf hefyd yn mwynhau cael cwmni, yn enwedig pan oeddwn yn iau gan fy mod yn unig blentyn, ac mewn rhyw ffordd, rwy’n meddwl fod hyn hefyd wedi caniatáu i mi gael rhywfaint o hyder wrth dyfu fyny gan fy mod yn gwybod fod gennyf rywun i ymddiried ynddynt bob amser a threulio amser gyda nhw fel y byddwn gyda brawd neu chwaer. Roedd fy mam bob amser yn sicrhau ein bod yn treulio amser gyda’n gilydd hefyd er mwyn i mi beidio byth â theimlo fy mod yn cael fy ngadael allan. Weithiau gall fod yn anodd pan roedd plentyn â mwy o ofynion neu angen mwy o gefnogaeth gennym ni fel teulu, ond hyd yn oed fel plentyn iau, roeddwn bob amser yn deall y sefyllfa.
Er fy mod nawr yn byw i ffwrdd o gartref ac yn astudio yn y brifysgol, rwyf dal yn mynd adref ac yn ymweld yn aml i weld fy mrawd a fy chwaer maeth iau (a fy mam hefyd). Rwyf dal yn teimlo fel fy mod yn rhan fawr o’r teulu a dal yn hoff o helpu plant maeth newydd i setlo.