blog

cwrdd â'r tîm - catrin

Cofnodwyd: Dydd Llun 11th April 2022
Blog i Mewn: Blogs

Enw: Catrin McLaren

Teitl Swydd: Gweithiwr Cymdeithasol

 

ers faint ydych chi wedi bod yn eich swydd?

 

Rydw i wedi bod yn gweithio yn y Tîm Maethu ers mis Tachwedd 2021.

 

pam wnaethoch chi ddewis gyrfa ym maes gwasanaethau cymdeithasol?

 

Roeddwn i eisiau gyrfa lle’r oedd modd i mi gael effaith cadarnhaol. Rydw i’n caru gweithio gyda phobl a gallu gwrando ac efallai gwneud gwahaniaeth bach.

 

beth yw’r her fwyaf rydych wedi’i wynebu yn eich swydd?

 

Roedd popeth yn seiliedig ar bapur yn fy ngyrfa flaenorol gyda’r GIG, felly yn bendant, newid i weithio’n electroneg.

 

beth sydd fwyaf boddhaol am eich swydd?

 

Rydw i wrth fy modd yn gweld siwrnai pobl a’u gweld yn magu hyder.

 

pwy yw eich model rôl a pham?

 

Rydw i’n edmygu llawer o bobl yn fy mywyd personol a phroffesiynol. O’r rhai yn llygad y cyhoedd, dwi’n cofio darllen erthygl am yr actor Keanu Reeves ac edmygu ei agwedd tuag at enwogrwydd. Mae o’n aml yn rhoi rhywfaint o’i gyflog i actorion eraill, styntwyr a phobl eraill sy’n gweithio ar y set gydag o. Mae o’n cefnogi nifer o achosion elusennol ac mae ganddo gymaint o angerdd dros yr hyn mae o’n ei wneud. Mae’n ymddangos ei fod yn gwneud llawer o bethau da heb fod yn rhy amlwg yn y diwylliant ‘seleb’.

 

yn olaf, petaech chi’n gallu mynd ar wyliau i unrhyw le yfory, i ble fyddech chi’n mynd a pham? 

 

Disneyland, heb unrhyw amheuaeth. Rydw i’n ffan enfawr o bob ffilm Disney, maen nhw mor hudolus ac fe allwn i (ac rydw i wedi) gwylio’r ffilmiau drosodd a throsodd.