blog

cwrdd â'r tîm - ashleigh

Cofnodwyd: Tuesday 21st June 2022
Blog i Mewn: Blogs

 

 

Enw - Ashleigh 

Teitl Swydd - Gweithiwr Cymdeithasol

 

ers faint ydych chi wedi bod yn eich swydd?

 

Gweithiwr Cymdeithasol ers 2019, Maethu ers 6 mis.

 

pam wnaethoch chi ddewis gyrfa ym maes gwasanaethau cymdeithasol?

 

Rydw i’n mwynhau gweithio gyda phobl a dwi wrth fy modd yn dysgu am bobl eraill. Rydw i wedi cael fy nghymell i ddatrys problemau ers erioed ac rydw i’n mwynhau’r amrywiaeth a ddaw yn sgil gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Dim ond ar ddechrau fy ngyrfa ydw i ac mae’r maes yn tyfu’n barhaus.
Mae hyn yn gyffrous gan fod posibiliadau fy swydd yn ymestyn bob amser.

 

beth yw’r her fwyaf rydych wedi’i wynebu yn eich swydd?

 

Gall yr effaith emosiynol o weithio gyda materion cymhleth megis camdriniaeth, esgeulustod a chamddefnyddio sylweddau fod yn anodd ar adegau. Rydw i wedi meithrin perthnasau cadarnhaol gyda phobl sydd heb allu cyflawni’r hyn roeddynt ei eisiau oherwydd amrywiaeth o resymau, ac fe all fod yn drist iawn.
Yn aml, gallaf weld sut mae’r systemau o amgylch cyllid, mynediad gwael at wasanaethau a chefnogaeth arbenigol yn effeithio ar bobl ddiamddiffyn, ac fe all deimlo’n rhwystredig iawn ar adegau ac mae hynny y tu hwnt i fy rheolaeth.

 

beth sydd fwyaf boddhaol am eich swydd?

 

Cefnogi pobl i gyflawni beth allai deimlo’n amhosibl iddynt ar y cychwyn. Mae gan y proffesiwn Gwaith Cymdeithasol enw gwael ar adegau ac fe all fod yn heriol iawn weithiau i feithrin perthnasau gweithio cadarnhaol o ymddiriedaeth gyda phobl. Pan gaiff y perthnasau yma eu creu a phan gyflawnir canlyniadau cadarnhaol, rydw i’n hapus iawn ac alla’ i ddim help ond gwenu a theimlo’n falch iawn.

 

pwy yw eich model rôl a pham?

 

Rydw i’n edmygu llawer o bobl yn fy mywyd personol a phroffesiynol. Mae gen i lawer o deulu sydd yn gweithio yn y sector cyhoeddus, ac rydw i wedi cyfarfod unigolion gwybodus sy’n gweithio’n galed yn y proffesiwn yma. Fe fyddai’n amhosibl i mi ddewis dim ond un!

 

ac yn olaf, petaech chi’n gallu mynd ar wyliau i unrhyw le yfory, i ble fyddech chi’n mynd a pham?

 

Mecsico ar gyfer y môr, haul a bwyd Mecsicanaidd