blog

cwrdd â'r tîm - anne marie

Cofnodwyd: Dydd Llun 23rd May 2022
Blog i Mewn: Blogs

 


Enw: Anne-Marie 

Teitl Swydd: Cynorthwy-ydd Gwasanaethau Plant

 

ers faint ydych chi wedi bod yn eich swydd?

 

Dechreuais yn fy swydd ym mis Medi 2021

 

pam wnaethoch chi ddewis gyrfa ym maes gwasanaethau cymdeithasol?

 

Fe symudais i faes gwasanaethau cymdeithasol ar ôl 20 mlynedd yn y sector addysg. Fe gyrhaeddais y pwynt pe na fyddwn i’n mynd amdani a rhoi cynnig ar rywbeth newydd, fyddwn i byth. Fe welais y swydd hon, a dyma’n union oeddwn i’n chwilio amdani.

 

beth yw’r her fwyaf rydych wedi’i wynebu yn eich swydd?

 

Dod i arfer â’r systemau newydd. Mae pobl yn grêt, ond mae technoleg yn rhoi cur pen i mi.

 

beth sydd fwyaf boddhaol am eich swydd?

 

Gweld yr effaith uniongyrchol mae’n cefnogaeth yn ei gael yn ddyddiol. Datrys unrhyw broblemau i wneud y siwrnai faethu mor esmwyth â phosibl i’n gofalwyr, ac yn eu tro y plant maent yn gofalu amdanynt.

 

pwy yw eich model rôl a pham?

 

Mae’n swnio’n cliché, ond fy modelau rôl yw fy nhri o blant. Maent yn fy ysbrydoli bob dydd i fod yn well ac i weithio’n galed.

 

yn olaf, petaech chi’n gallu mynd ar wyliau i unrhyw le yfory, i ble fyddech chi’n mynd a pham?

 

Mi faswn i’n mynd i Rufain. Mi fyddwn i’n gwneud hynny dros fy mam. Chafodd hi erioed y cyfle.