blog

Mae Angen Calon Fawr i Afael Llaw Fach Canllaw Plentyn i fod yn deulu maeth

Cofnodwyd: Wednesday 15th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Helo, fy enw i yw Caoilfhionn (sy’n cael ei ynganu Key-Lin).

Rydw i’n siŵr os wyt ti'n darllen y llyfr hwn fod dy rieni wedi gofyn i ti os byddet ti'n hoffi bod yn deulu maeth... Neu efallai dy fod di eisiau dysgu am faethu.

Rydw i wedi bod yn ofalwr maeth ers mor hir ag rydw i’n gallu cofio a byswn i wrth fy modd i rannu fy mhrofiadau efo ti.

Rydw i’n naw oed ac mae gen i lwyth o frodyr a chwiorydd maeth. Daeth rhai i aros am ychydig ddyddiau ac arhosodd rhai eraill am ychydig flynyddoedd!

Rydw i’n ystyried pob un ohonyn nhw yn rhan o fy nheulu anhygoel, hyd yn oes y rhai wnaeth aros am gyfnod byr. Rydw i wedi dysgu fod teuluoedd yn gallu bod o bob lliw a llun. 

Felly, mae’n amser dechrau eich taith faethu... ffwrdd â ni!

 

  1. Beth ydi maethu?

  2. Beth mae’n ei olygu i ti?

  3. Gwybod beth a ddisgwylir a sut i baratoi

  4. Dweud hwyl fawr 

  5. Cymorth 

 

Beth ydi maethu?

Weithiau tydi plant ddim yn gallu byw gartref efo mam neu dad. Mae llawer o wahanol resymau am hyn. Efallai fod eu rhieni’n sâl neu fod angen help arnyn nhw i ddatrys problem. Weithiau tydi plant ddim yn ddiogel adref. Efallai bod angen ychydig o seibiant arnyn nhw nes fod pethau’n dod i drefn.

Os ydach chi’n penderfynu maethu, byddwch yn cynnig rhannu eich cartref a’ch teulu gyda phlentyn sydd ei angen yn fawr.

Efallai y bydd y plentyn yn dod i fyw efo chi am ychydig ddyddiau, misoedd neu hyd yn oed am flynyddoedd. Mae rhai plant yn dod yn syth o’r ysbyty ar ôl iddyn nhw gael eu geni ac yn aros mewn gofal maeth nes eu bod nhw wedi tyfu i fyny.

Daeth fy mrawd bach i fyw efo ni pan oedd yn dri diwrnod oed. Roedd i fod i aros efo ni am ddau fis ond rydan ni newydd ddathlu ei ben-blwydd yn bedair oed! Rydan ni wedi cael cymaint o hwyl a direidi yn ystod y bedair blynedd ychwanegol!

Mae rhai o fy ffrindiau’n gofyn i mi os ydi maethu'r un peth â mabwysiadu. Mae’n debyg ond ddim yr un fath. Efo maethu rydach chi o hyd yn gobeithio y bydd pethau’n mynd yn iawn i’ch brodyr a’ch chwiorydd maeth ac yn gobeithio y byddan nhw’n gallu mynd yn ôl at eu teulu go iawn ryw ddiwrnod. Efo mabwysiadu maen nhw’n aros efo’ch teulu am byth. Mae hyn hefyd yn gallu digwydd efo maethu, ond ddim bob amser felly mae’n rhaid i chi fod yn barod i ddweud hwyl fawr.

 

Beth mae maethu yn ei olygu i ti?

Y gair cyntaf sy’n dod i’n meddwl i ydi cartref prysur!
Nid yn unig ydach chi’n cael brawd neu chwaer faeth, ond rydach chi hefyd yn cwrdd â’u teulu, eu gweithiwr cymdeithasol, eich gweithiwr cefnogi maethu chi a llawer mwy o wynebau cyfeillgar.
Mae'n gallu teimlo’n ormod i’w brosesu ond byddwch chi’n dod i arfer yn fuan ac yn cyfarfod pobl neis iawn ar hyd y daith!
Mae maethu’n golygu rhannu. Rydach chi’n rhannu eich teulu, eich cartref, eich teganau a’ch ffrindiau, ond rydach chi’n cael llawer yn ôl!
Yn siarad o brofiad, rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd gwych ac mae fy nheulu wedi tyfu, a hefyd wedi mynd yn llawer mwy cyffrous.
Rydan ni’n cael digonedd o deganau newydd i wneud yn siŵr bod gan aelod newydd ein teulu deganau neis i chwarae efo nhw. A'r peth gorau un ydi... rydan ni’n cael digon o bartis i ddathlu'r holl benblwyddi!!!

 

Gwybod beth a ddisgwylir a sut i baratoi

Cyn y gallwch chi faethu, bydd angen i’ch teulu gael eu hasesu. Bydd gweithiwr cymdeithasol yn galw i’ch cartref i sgwrsio efo’ch teulu am faethu. Maen nhw’n gofyn llawer o gwestiynau amdanoch chi a’ch rhieni i wneud yn siŵr eich bod chi’n gallu gofalu am blentyn, eu cadw’n ddiogel a rhoi digon o gariad a sylw iddyn nhw.

Unwaith y bydd pawb yn fodlon, gallwch chi ddechrau maethu!

A dyna pryd mae’r hwyl yn dechrau! Bydd gweithiwr cymdeithasol yn ffonio i ddweud bod angen teulu maeth ar gyfer plentyn a'u bod nhw'n teimlo mai eich teulu chi yw'r teulu cywir.

Efallai y byddan nhw’n dweud wrthoch chi eu bod yn dod y diwrnod hwnnw neu efallai y byddwch yn cael mwy o amser i baratoi. Felly, mae’n syniad da i fod yn drefnus!

Mae plentyn maeth angen: eu hystafell wely eu hunain, cot neu wely, offer babi neu ddillad sbâr a phyjamas os ydyn nhw’n hŷn a hefyd rhai eitemau i’w cysuro.

Ond yn fwyaf pwysig, bydd angen croeso cynnes arnyn nhw ac amser i setlo i mewn i'ch teulu.

Rydw i’n ceisio meddwl am amser pan oeddwn i’n teimlo ofn neu pan oeddwn i yn rhywle newydd heb fy nheulu ac mae hyn yn fy helpu i ddeall sut maen nhw'n teimlo.

Efallai byddan nhw’n methu eu teulu neu efallai na fyddan nhw’n gwybod a yw eich teulu’n ffeind. Efallai fod bywyd teuluol wedi bod yn anodd iddyn nhw ac efallai y bydd hi'n cymryd ychydig yn hirach iddyn nhw addasu.

Ond mae angen i ti gofio fod plant mewn gofal maeth yn union fel ti a fi. Maen nhw eisiau pobl gariadus, ofalgar yn eu bywydau a dyna beth yw ein rôl ni!

Dweud hwyl fawr

Un o’r pethau anoddaf am fod yn ofalwr maeth yw dweud hwyl fawr pan mae'n bryd i dy frawd neu chwaer faeth fynd adref neu fynd i fyw yn rhywle arall. Mae’n adeg trist iawn yn fy nheulu i ond ‘dw i wedi darganfod bod rhai pethau’n fy helpu ei wneud yn llai trist.
Yn gyntaf, mae gwybod ble maen nhw'n mynd a chadw cysylltiad efo nhw yn ei wneud yn haws. Rydw i wedi gallu cyfarfod eu teuluoedd a gweld ble maen nhw'n mynd i fyw ar ôl iddyn nhw adael fy nhŷ.
Rydw i’n teimlo’n well ar ôl gwybod eu bod nhw’n dal yn ddiogel ac yn cael cariad a phan rydw i’n eu gweld nhw’n hapus. Mae mam a dad o hyd yn rhoi gwybod i mi sut maen nhw ac rydan ni’n siarad amdanyn nhw drwy’r amser.
Bydd fy mrawd bach yn gadael yn fuan ac rydan ni i gyd yn teimlo’n drist iawn am hyn. Ond rydan ni wedi cyfarfod ei deulu parhaol ac maen nhw wir yn hyfryd. Rydan ni’n cynllunio gwyliau a theithiau am y dydd yn barod efo nhw ac mewn ffordd ryfedd maen nhw wedi dod yn rhan o fy nheulu i hefyd!

Cymorth

Paid â phoeni os wyt ti’n teimlo’n drist neu’n poeni, chei di byth dy adael ar dy ben dy hun! Rydw i’n siarad efo fy rhieni a fy mrawd os ydw i’n drist neu os nad ydw i’n deall beth sy’n digwydd.

Mae gennym ni hefyd weithiwr cefnogi maethu gwych sy’n ymweld â ni adref a hefyd yn mynd a fi a fy mrawd allan am sgwrs. Aeth hi â ni am bitsa a hufen iâ a siarad efo ni am y ffordd rydan ni'n teimlo am ein brawd bach a'r newidiadau sy'n digwydd yn ein teulu ni.

Rydan ni hefyd wedi mynd i fowlio ac i ganolfan antur awyr agored efo plant eraill sy’n maethu. Mi wnes i fwynhau hyn gan fod llawer o bethau’n gyffredin rhyngom ni ac rydan ni i gyd yn rhan o gymuned faethu arbennig iawn.

Felly, gan ein bod chi’n gwybod beth yw maethu ac rydych chi’n barod i ddechrau ar eich taith
Mwynhewch!

Gan Caoilfhionn 9 oed

 

Lawrlwythwch eich copi o “Mae Angen Calon Fawr i Afael Llaw Fach Canllaw Plentyn i fod yn deulu maeth”