blog

caroline, sy'n ofalwraig maeth, mewn sesiwn Holi ac Ateb am ofalu a gweithio โ€“ Rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cofnodwyd: Dydd Llun 28th February 2022
Blog i Mewn: Blogs

 

Fel rhan o Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, fe wnaethom gyfweld un o aelodau ein tîm ein hunain, sef Carol, gan ofyn ambell gwestiwn iddi am fod yn Ofalwr Maeth yn Sir y Fflint.

 

ers pryd wyt ti’n ofalwr maeth a pham oeddet ti eisiau bod yn ofalwr maeth?

 

Rwyf wedi bod yn ofalwr maeth ers 12 mlynedd, mae fy chwaer sy’n byw ym Manceinion yn ofalwr maeth a phan oedden ni’n arfer mynd i weld y teulu, fe fydden ni bob amser yn cwrdd â’u plant ac roedd hynny’n gwneud i ni fod eisiau bod yn ofalwyr maeth, buasem yn gweld y manteision i’r plant, sut roedd yn eu gwneud nhw’n gryfach drwy gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau a’u datblygiad.

 

faint o blant maeth wyt ti wedi eu maethu dros y blynyddoedd?

 

Rydym wedi maethu tua 14 o blant o bob oed dros y blynyddoedd, rydym wedi edrych ar ôl plant yn y tymor byr a chynnig cyfnodau seibiant i fabanod, mae dau blentyn wedi bod gyda ni am gyfnod hir, dros 10 mlynedd, mae un newydd ein gadael i fyw gyda’i chariad a daeth y llall atom pan oedd hi’n 7 oed ac mae hi nawr yn y cyfnod ‘Pan Fydda i’n Barod’ gan ei bod hi nawr yn 19 oed.

 

rwyt ti’n sôn am y cyfnod ‘pan fydda i’n barod’, alli di esbonio beth mae hynny’n ei olygu?

 

Pan fydd y plant yn 15 oed a 9 mis maen nhw’n derbyn Cynllun Llwybr. Mae’r cynllun yn eu helpu i gynllunio’u dyfodol a phenderfynu a ydyn nhw eisiau aros gyda’u gofalwyr maeth pan fyddan nhw’n 18 oed a pharhau i dderbyn y gefnogaeth tan fyddan nhw’n 21 oed. Mae rhai plant yn dewis gadael eu gofalwyr maeth i gael annibyniaeth ond nid yw rhai ohonyn nhw’n teimlo’u bod yn barod i adael, byw ac ymdopi ar eu pen eu hunain, ond mae’n braf bod ganddyn nhw’r dewis i barhau â’r gefnogaeth.

 

sut mae’r ferch sydd wedi eich gadael a symud i fyw gyda’i chariad yn ymdopi?

 

Mae hi’n ymdopi’n dda iawn, rydyn ni’n dal i’w gweld drwy’r amser, sy’n braf iawn, ac mae hi’n dal i fod yn rhan o’n teulu ni.

 

oes gen ti blant dy hun a sut wnaethon nhw addasu pan wnes di ddechrau maethu plant?

 

Oes, mae gennym ni un ferch sydd nawr yn 21 oed ac i ffwrdd yn y brifysgol. Roedd hi’n 9 oed pan wnaethom ni ddechrau ar ein taith i gynnig gofal maeth ac roedd hi’n unig blentyn a phob amser eisiau brawd neu chwaer. Roeddwn i wedi gwahanu oddi wrth ei thad biolegol ar y pryd felly roedd hi’n mynd i aros gyda’i thad bob yn ail benwythnos ac roedd hynny’n rhoi ychydig o seibiant iddi ond roedd hi wrth ei bodd cael cwmni plentyn maeth yn y tŷ. Roedd hi bob amser yn rhan o unrhyw drafodaethau i ni fod yn ofalwyr maeth ac roedd hi bob amser 100% o’i blaid ac mae hi wedi ei fwynhau erioed.

 

rydym yn clywed am blant biolegol yn mynd ymlaen i faethu plant eu hunain pan maen nhw’n oedolion, wyt ti’n meddwl bod cael ymwybyddiaeth ohono o oedran ifanc yn fuddiol ac a fyddai dy ferch di’n ystyried maethu plant yn y dyfodol?

 

Ydy, mae hi’n astudio seicoleg yn y brifysgol sydd wedi bod yn ffactor amlwg wrth iddi dyfu fyny yng nghwmni plant maeth, pan fydda’ i’n gofyn iddi am faethu yn y dyfodol mae hi bob tro’n dweud, ella rhyw ddiwrnod.

 

sut brofiad oedd maethu plant i ti dros y blynyddoedd? rwy’n siŵr fod gen ti lawer o straeon cadarnhaol a negyddol y galli di rannu â ni?

 

Mae rhai lleoliadau bob amser yn mynd i fod yn anoddach nag eraill, ac yn gwthio’r ffiniau, ond rwyt ti’n gwybod cefndir y plentyn felly mae hynny’n dy baratoi di. Ar y cyfan, rydym wedi cael lleoliadau da iawn ac rydym ni bob amser yn gartref digynnwrf sydd â llawer o brysurdeb ynddo. Roedd gennym ni dri pherson yn eu harddegau ar un adeg ac fe fyddai yna ddadlau o bryd i’w gilydd, fel y rhan fwyaf o frodyr a chwiorydd, ond fe fydden ni bob amser yn eistedd i lawr a datrys pethau. Gallwch gael cyfnodau anodd ond fe fydden ni’n eu derbyn ac yn ymdrin â nhw.

 

fel gofalwr maeth, wyt ti’n gallu dewis plentyn i’w gymryd wrth drefnu lleoliad?

 

Wyt, mae’r tîm yn Maethu Cymru Sir y Fflint yn wych wrth drefnu lleoliadau, dydyn nhw ddim yn rhoi unrhyw bwysau ac maen nhw’n dangos gwir ddealltwriaeth pan fyddwch chi’n dewis plentyn ar gyfer eich lleoliad. Rydw i wedi gwrthod lleoliadau am nad oeddwn i’n meddwl eu bod yn addas i’r awyrgylch a’n ffordd ni o fyw gartref. Mae’n rhaid i ofalwyr maeth asesu beth sy’n addas iddyn nhw ond, yn bwysicach na hynny, beth sy’n addas i’r plentyn.

 

pa gefnogaeth ydych chi’n ei chael gan maethu cymru sir y fflint os byddwch chi’n penderfynu bod yn ofalwr maeth?

Mae yna gefnogaeth dda iawn a byddwch yn cael hyfforddiant rheolaidd, mae’r gweithwyr cymdeithasol wedi bod yn wych drwy gydol fy 12 mlynedd, rydych yn derbyn negeseuon e-bost rheolaidd i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau yn y gymuned leol ac wrth gwrs rydych yn gwneud ffrindiau gyda gofalwyr maeth lleol eraill. Mae cynllun y Mocking Bird yn cynnig cefnogaeth barhaus drwy eu gofalwyr yn yr hwb.

 

alli di ddweud mwy wrthym ni am y mocking birds?

 

Mae tua 3 chlwstwr Mocking Bird yn Sir y Fflint. Maen nhw’n meithrin perthynas ac yn cynnig cymorth a chyngor i ofalwyr maeth eraill yn eu hwb. Byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad â gofalwyr maeth i weld a oes angen unrhyw beth arnyn nhw, a oes angen cymorth arnyn nhw gyda chludiant i’r ysgol neu gysgu dros nos er enghraifft. Mae’n rhwydwaith braf iawn gan ei fod fel cael teulu estynedig i’r holl ofalwyr maeth gan fod rhai gofalwyr yn gallu teimlo ychydig yn ynysig, felly mae’r Mocking Birds bob amser yno i helpu.

 

pa fuddiannau eraill mae gofalwyr maeth yn eu cael yn sir y fflint?

 

Rydych yn cael gostyngiad yn nhreth y cyngor, cardiau disgownt ar gyfer dyddiau allan, mynediad at grwpiau a digwyddiadau rhwydweithio, grantiau pen-blwydd a Nadolig ac os ydych chi’n cael eich cyflogi gan Gyngor Sir y Fflint byddwch chi hefyd yn cael 5 diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl.

 

ac yn olaf, os byddai gen ti neges i unrhyw un sy’n ystyried bod yn ofalwr maeth, pa gyngor fyddet ti’n ei roi iddyn nhw?

 

Bod â meddwl agored, gall fod yn anodd ond gall roi llawer o foddhad. Efallai y byddwch yn meddwl eich bod yn mynd i roi llawer iawn i blant wrth gynnig gofal maeth ond mewn gwirionedd maen nhw’n cynnig llawer i chi hefyd, alla’ i ddim dychmygu peidio â bod yn ofalwr maeth, mae’r plant yn fy llenwi â llawenydd, rydych chi’n gweld y newid rydych wedi’i wneud ond maen nhw hefyd yn eich newid chi, mae mor hyfryd.
I gloi, os ydych chi’n gweithio, peidiwch â gadael i hynny wneud i chi feddwl dwywaith, fe allwch chi ei wneud, mae yna gymaint o gefnogaeth ac mae Maethu Cymru Sir y Fflint yn deall bod gan bobl ymrwymiadau gwaith a byddan nhw’n eich helpu.