blog

gofalwyr maeth cherrill a tony yn ymddeol ar ôl 36 mlynedd o wasanaeth.

Cofnodwyd: Thursday 24th November 2022
Blog i Mewn: Blogs

 

pryd wnaethoch chi ddechrau maethu a beth wnaeth i chi ddewis bod yn ofalwyr maeth?

 

Fe benderfynon ni faethu 36 mlynedd yn ôl pan oedd angen help ar rywun i roi seibiant iddyn nhw a’u teulu.

 

am faint o flynyddoedd i gyd ydych chi wedi bod yn maethu a faint o blant fyddech chi'n dweud ichi eu maethu dros y blynyddoedd hynny?

 

Rydym wedi maethu ers 36 mlynedd, nid ydym wedi cyfrif y lleoliadau a gawsom ond bydd dros 200 o blant wedi bod.

 

a oedd gennych chi blant biolegol a sut gwnaethon nhw addasu i chi ddod yn ofalwyr maeth?

 

Mae gennym 2 ferch sydd wedi mwynhau cael plant eraill o’n cwmpas i helpu i chwarae, i fwydo ac i’w difyrru, gan yr oedd gan y mwyafrif o’n plant anghenion ychwanegol.

 

beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am fod yn ofalwyr maeth?

 

Gwneud bywydau plant yn well, helpu rhieni i ddysgu sut i ofalu am eu plant neu pan nad yw hyn yn gweithio allan eu symud ymlaen i deuluoedd mabwysiadol hyfryd a’u gweld yn hapus ac wedi setlo a chefnogi’r rhieni wedyn.

 

rydych yn ofalwyr maeth profiadol iawn. pe gallech chi gynnig cyngor i ofalwr maeth newydd, pa gyngor fyddech chi'n ei roi iddyn nhw?

 

Cadwch at ffiniau cadarn a rhowch lawer o gariad, amser ac amynedd a bydd y plant yn blodeuo.

 

beth fyddwch chi'n ei golli am fod yn ofalwyr maeth?

 

Byddwn yn gweld eisiau'r hwyl, canu, chwerthin a hyd yn oed y gwaith caled.

 

ac yn olaf, a oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud am faethu drwy eich awdurdod lleol, maethu cymru sir y fflint a’r tîm?

 

Rydym wedi maethu ar gyfer 2 awdurdod lleol ac 1 asiantaeth, ond mae’r blynyddoedd gorau wedi bod i
Sir y Fflint, rydym bob amser wedi teimlo ein bod yn cael ein cefnogi gyda nhw, mae popeth yn cael ei egluro pan fyddwch yn gofyn ac nid oes dim yn ormod o drafferth o’n gweithiwr cymdeithasol cynorthwyol hyd at uwch reolwyr a rydym yn drist i'w gadael i gyd.