blog

7 peth a fydd yn eich anghymhwyso rhag bod yn rhiant maeth

Cofnodwyd: Dydd Llun 20th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

A wyddoch chi...bod y mwyafrif o bobl yn ystyried maethu am tua 5 mlynedd cyn codi’r ffôn.

“Beth os ydyn nhw’n fy ngwrthod?”

Rwyf wedi gweithio yn y maes maethu ers 15 mlynedd, ac yn anffodus, bu’n rhaid i mi wrthod rhai pobl.
Ond rwyf wedi derbyn llawer mwy.
Rwyf hefyd wedi cynghori nifer o bobl sy’n ymholi am faethu i ddod yn ôl pan maent yn barod, a dyna maen nhw’n ei wneud.

Yn y blog hwn, byddaf yn rhannu 7 peth a fydd yn eich anghymhwyso rhag bod yn rhiant maeth.
Dyma 7 peth rwy’n dueddol o ddweud ‘na’ iddynt.
Gadewch i mi dawelu eich meddwl.
Yna, gobeithio y byddwch yn barod i godi’r ffôn â’r tîm maethu.

1. Trais

Mae hwn yn amlwg.
A ydych wedi cael eich arestio am Ymosodiad, Niwed Corfforol Difrifol, neu am fod mewn brwydr?
Hefyd, pryd ddigwyddodd hyn, yn ddiweddar? Beth oedd yr amgylchiadau?
Os yw hyn wedi digwydd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’n debyg y byddwn yn eich gwrthod.
Ond, deallwn fod gan bobl orffennol. Mae gan nifer o ofalwyr maeth llwyddiannus orffennol hefyd.
Os digwyddodd yr achos 20 mlynedd yn ôl, rydych yn debygol o fod wedi newid ers hynny. Siaradwch â ni, mae’n bosibl iawn y byddwn yn eich derbyn.

2. Rhannwch bopeth â ni.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn wych am chwarae cuddio. Felly nid yw’n syniad da cuddio unrhyw beth oddi wrthym, neu obeithio na fyddwn yn gofyn am y peth.
I fod yn ofalwr maeth, mae arnom ni angen gwybod popeth amdanoch chi.
Byddai’n well gennym i chi ddweud wrthym. Os oes unrhyw beth rydych chi’n credu allai gael effaith ar eich cais i fod yn ofalwr maeth, dywedwch wrthym. ‘Does yna ddim byd yn ein synnu, wir i chi.
Os nad ydych wedi dweud wrthym, neu os nad ydych yn barod i sôn am y peth, mae’n bosibl y byddwn yn cwestiynu pa mor agored fyddwch chi wrth faethu.
Fe allwn eich gwrthod oherwydd hynny.

3. Rhy brysur

Rydych wirioneddol eisiau maethu.
Ac fe fyddech yn ofalwr maeth gwych, ond a oes gennych chi’r amser?
A oes gennych chi fabi, plant ifanc, rhieni hŷn, eich swydd....
Yn yr achos hwn, byddwn yn eich cynghori i ddod yn ôl pan fydd gennych chi fwy o amser.

4. Ystafell Sbâr

Dyma un hawdd. Mae arnoch chi angen ystafell wely er mwyn i’r plentyn maeth gael lle ei hun.
Os nad oes gennych le iddynt, byddwn yn eich gwrthod.

5. Anifeiliaid anwes

P’un a ydych yn caru cŵn neu gathod, fe allwch chi faethu.
Pan rwy’n ymweld â chartrefi gofalwyr maeth posibl, mae arnaf eisiau gweld sut mae’r anifeiliaid anwes yn ymateb i mi. Rwy’n ystyried sut fyddant yn ymateb i ymwelwyr – yn enwedig plant.
Mae’r rhan fwyaf o’r plant maeth yr wyf yn eu hadnabod wrth eu boddau ag anifeiliaid anwes.
Ond, os yw eich anifail anwes yn rheoli’r tŷ neu os yw’r anifail yn beryglus neu wedi brathu rhywun yn y gorffennol, byddwn yn eich gwrthod.

6. Iach

Mae pawb yn mwynhau darn o gacen, ac efallai ychydig o win o bryd i’w gilydd.
Mae hynny'n iawn.
Ond os gallai eich iechyd (corfforol neu iechyd meddwl) olygu rhagor o ansefydlogrwydd i blentyn maeth, neu os gallai’r her o faethu ddirywio eich iechyd eich hunan, byddwn yn eich gwrthod.
Ond os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth i ofalu am eich hunan, byddwn yn eich derbyn.
Mae’n rhaid i bopeth fod yn sefydlog am dipyn o flynyddoedd. Felly, dewch yn ôl pan rydych yn barod.

7. A ydych yn byw yma?

Mae arnom ni angen cartrefi lleol i blant maeth er mwyn iddynt gael aros yn eu cymuned.
Rydym yn croesawu gofalwyr maeth o bob cefndir, diwylliant, crefydd, rhywioldeb, rhywedd ac iaith – ond mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y DU.

8. Diogel o amgylch plant

Nid oes rhaid i chi fod yn rhiant i faethu.
Ond os oes gennych chi blant, a ydych wedi eu cadw’n ddiogel?
Mae profiad o gefnogi plentyn drwy gyfnodau heriol yn ddelfrydol i ni.
Ond os yw plant yn eich gofal wedi bod mewn perygl, byddwn yn eich gwrthod.

Felly...

Os ydych yn unigolyn hamddenol, iach, sefydlog, hyblyg, agored ac ar gael, ac os ydych yn byw yn yr ardal leol gydag ystafell wely ac anifeiliaid anwes hyfryd.
Perffaith. Rydych yn barod amdani.
Mae’n bosibl y bydd y siwrnai i fod yn ofalwr maeth yn teimlo’n frawychus i ddechrau, nid yw mor anodd ag y tybiwch.
Mae’r broses asesu a gofalu am blant yn waith caled. Mae hynny’n wir.
Ond y gyfrinach yw cymryd un cam ar y tro.

Gallwch ddechrau drwy wirio’r 7 peth a restrir uchod.
Ni allwch fod yn ofalwr maeth mewn diwrnod. Dechreuwch drwy ffonio neu dreulio ychydig funudau’n cwblhau ymholiad ar-lein.
Cymerwch gam. Un ar y tro. Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.

Mae arnom ni eisiau eich derbyn.

Mae bron iawn pawb yn gallu maethu, beth bynnag yw eu hamgylchiadau. Fodd bynnag, mae 7 peth allai eich anghymhwyso rhag bod yn ofalwr maeth gan gynnwys trais, perygl i blant, gonestrwydd, amser, ystafell wely sbâr, anifeiliaid anwes peryglus, iechyd a statws preswyl.